01.05.24
By Ellie Thomas
Image above: Ellie in the traditional Welsh dress with her class
Mae’r gair “Cymru” yn tarddu o’r gair Eingl-sacsonaidd wēalas, sy’n golygu “estron” neu “dieithryn”. Fe’i cysylltir â delwedd y Celt digroeso, dig, – mae ei hynafiaid hyd heddiw yn rhannu’r un ymdeimlad o elyniaeth ac amheuaeth tuag at unrhyw un nad yw’n hanu o’r wlad hon. Enw ein gwlad yw “Cymru” sy’n deillio o’r gair Brythonig combrogi, sy’n golygu “ffrindiau” neu “gyd-wladwyr”. Fel Cymraes falch, credaf fod hwn yn enw llawer mwy cymwys ar gyfer fy ngwlad. Mae Cymru yn wlad hardd a deniadol, gyda’i hanes cyfoethog ei hun, arferion, diwylliant a cherddoriaeth y byddai unrhyw Gymro neu Gymraes yn hapus i’w rhannu gyda chi. Ond efallai mai’r hyn sy’n rhoi’r balchder mwyaf i ni yw ein hiaith.
Mae yna ddywediad yn y Gymraeg, “Cenedl heb iaith, cenedl heb galon”- a’r Gymraeg yw calon ein diwylliant cenedlaethol o hyd. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth mae’r Cymry wedi brwydro’n galed drosto. Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae ymdrechion gwleidyddion, gweithredwyr a chymunedau Cymreig wedi sicrhau parhad ein hiaith. Y Chwyldro Diwydiannol oedd prif achos dirywiad y Gymraeg, gydag ymfudiad torfol o drigolion o Loegr yn symud i Gymru a’r Saesneg yn dod yn iaith swyddogol yn y gweithle. Dilynwyd hyn gan drasiedi colli miloedd o ddynion Cymraeg eu hiaith ar feysydd rhyfel Ewrop – yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Ynghanol hyn, sefydlwyd Plaid Cymru yn 1925, plaid wleidyddol gyda’r prif amcanion o hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Yn y degawdau dilynol, arweiniodd ymgyrchoedd iaith at sefydlu’r orsaf radio Gymraeg gyntaf, BBC Cymru, yn 1977, a’r sianel deledu Cymraeg gyntaf, S4C, yn 1982. Ym myd addysg, daeth y Gymraeg yn bwnc ‘craidd’ a ‘gorfodol’ yn 1988 a arweiniodd at dwf ysgolion Cymraeg. Ym 1993, cymeradwyodd Senedd y DU Ddeddf yr Iaith Gymraeg, gan roi statws swyddogol i’r iaith fel iaith gyfartal â’r Saesneg. Yn olaf, sefydlwyd Senedd Cymru yn 1999,- llywodraeth Cymru – gan roi grym i aelodau etholedig Cymru i reoli amaethyddiaeth, gofal iechyd, addysg, trafnidiaeth ac iaith o fewn y wlad. Ac ar ôl refferendwm yn 2011, derbyniodd Cynulliad Cymru awdurdod i ddeddfu deddfau yn uniongyrchol, heb ymgynghori â San Steffan yn gyntaf.
Fe’m magwyd ar Ynys Môn -neu ‘Môn, Mam Cymru” fel y’i hadnabyddir. Mae’r ynys yng Ngogledd Cymru, ardal a ystyrir yn ‘Gymru Gymraeg’, gan fod y Gymraeg i’w chlywed ym mhob ysgol, siop a pharc. Mae dros hanner poblogaeth yr ynys yn siarad Cymraeg, gyda rhai cymunedau yn datgan fod dros 70% yn defnyddio’r iaith. Edmygir Ynys Môn am ei harfordir hardd, ei chefn gwlad gwyrdd, eang a’i phentrefi tawel. Daeth i enwogrwydd oherwydd enwau Cymraeg hirfaith y pentrefi hyn – yn arbennig, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Mae ymdeimlad cryf ymhlith trigolion lleol ynglŷn â chynnal enwau Cymraeg yr ardal hon, a galwodd deiseb ddiweddar yn 2023 am gyfeirio at ynys Môn wrth ei henw Cymraeg yn unig. Er i’r ddeiseb hon gael ei gwrthod, casglodd gefnogaeth dros 2,000 o lofnodion, gan adlewyrchu mudiad cenedlaethol i gymryd perchnogaeth o’r tir a dychwelyd lleoedd i enwau Cymraeg yn unig – yn ddiweddar, mae ‘Snowdon’ a ‘Snowdonia’ bellach yn cael eu hadnabod fel Eryri a’r Wyddfa yn unig.
Yng nghyswllt fy nheulu fy hun, Cymro yw fy nhad a fy mam yn Saesnes – sy’n golygu fod yr iaith mewn gwirionedd yn iaith fy ‘nhad’ ac nid fy mamiaith Ymdrechodd fy mam i ddysgu Cymraeg a chofleidio gwlad ac iaith ei gŵr. Gyda’n rhieni, byddai fy chwaer a minnau yn siarad ein math ein hunain o Wenglish – gan symud yn rhwydd rhwng y ddwy iaith.
Image above: Ellie with her Taid (grandfather) and his sister – Anti Jên.
Daeth dylanwad pellach gan oedolyn arall oedd yn ymgartrefu â ni: fy Nhaid. Magwyd fy nhaid ar aelwyd uniaith Gymraeg mewn cymuned chwarelyddol, hyd nes ei fod yn 14 mlwydd oed dim ond Cymraeg oedd fy Nhaid yn siarad nes yr aeth i’r ysgol a dysgu’r Saesneg yno. Parhaodd yn eiriolwr dros ei annwyl iaith am weddill ei oes – gan ddod yn actor nodedig ar deledu a radio Cymraeg. Gyda’i wyrion, byddai’n siarad, darllen, canu ac yn bwysicaf oll, yn ein cywiro yn Gymraeg. Iddo ef mae’r clod fel yr athro gorau o ran sicrhau cefndir i mi yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Pan oeddwn yn barod am yr ysgol, roedd gen i ddealltwriaeth gref o bwy oeddwn i ac o ddwy iaith a diwylliant fy nhreftadaeth.
Mae bron pob un o’r ysgolion cynradd yn fy ardal yn rhai cyfrwng Cymraeg – nid oedd fy un i yn eithriad. Yn ystod pob diwrnod ysgol, roedd disgwyl i mi siarad Cymraeg gyda fy athrawon – a hyd yn oed gyda fy ffrindiau ar y buarth. Yn ystod blynyddoedd cyntaf addysg cynhelid fy holl wersi yn Gymraeg yn unig, a dim ond hyd nes i mi droi yn saith y byddai Saesneg yn cael ei hymgorffori. Fy hoff ran o’r ysgol oedd hanes, yn benodol hanes Cymru. O chwedlau’r Mabinogi i esgyniad teulu’r Tuduriaid i’r Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn, llwyddodd y gwersi hyn i ddwysáu fy ymdeimlad cryf o’m hunaniaeth Gymreig. Parhaodd y diddordeb hwn mewn hanes lleol i’r ysgol uwchradd. Roedd yr ysgol hon yn un ddwyieithog, roedd fy ngwersi hanes TGAU a Lefel A yn cael eu rhannu rhwng dau athro, un yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Arweiniodd y cariad hwn at y pwnc i mi ennill lle i astudio Hanes mewn Prifysgol uchel ei pharch yn Lloegr.
Nid oes cyfieithiad uniongyrchol Saesneg o’r gair Cymraeg ‘hiraeth’, ond mae’n gyfystyr â’r teimlad o ddyheu am adref, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru a’r diwylliant Cymreig. Er fy mod yn teithio’n eang cyn fy mod yn 18 oed, dim ond yng Nghymru roeddwn wedi byw a derbyn addysg erioed. Felly, yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, profais deimladau hiraeth – o golli fy ngwlad â’i hiaith a’i harferion cyfarwydd – a theimlo ar goll – wrth addasu i amgylchedd a phobl Seisnig yn bennaf. Ond, o dipyn i beth deuthum yn gyfarwydd â pheidio â defnyddio fy iaith mewn lleoliad addysgol. Yn lle hynny, mynychais ddarlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg, siarad â fy Athrawon a chyfoedion yn Saesneg, darllen ac ysgrifennu papurau yn Saesneg, cyflwyno fy ngwaith yn Saesneg ac yn y pen draw, dilyn fy mywyd academaidd trwy’r Saesneg.
Dros y ddeng mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweithio a byw yn Lloegr a’r Dwyrain Canol. Penderfynais hefyd i barhau â’m haddysg – gan gwblhau MA a nawr PhD – y cyfan trwy’r Saesneg. Ac er nad ydw i wedi colli fy hunaniaeth fel Cymraes falch, rwy’n parhau i deimlo euogrwydd na fyddaf efallai yn gallu darllen ac ysgrifennu yn rhugl yn y Gymraeg fel ag yr oeddwn wrth adael yr ysgol. Ers i mi roi’r gorau i astudio yn yr iaith, teimlwn fy mod yn colli fy nghymhwysedd academaidd ynddi. Yn ystod cyfarfod cynnar gydag un o’m hathrawon mynegais fy mhryder ynglŷn â’r diffyg gallu dysgu trwy’r Gymraeg mwyach. Er ei fod yn cydymdeimlo â mi, dywedodd yn bendant mai Saesneg oedd prif iaith y sefydliad ac y dylwn fynychu sesiynau sgiliau ysgrifennu neu ddod o hyd i diwtor os wyf yn cael trafferth gyda hyn. Roedd wedi camddeall nad oeddwn am wella fy Saesneg, ond yn hytrach cynnal fy Nghymraeg. Mae ein prifysgolion yn rhoi cymaint o bwyslais ar gyrraedd y lefel ofynnol o’r iaith Saesneg fel bod llawer yn methu cofleidio’r holl ieithoedd a diwylliannau anhygoel sy’n bodoli yn eu sefydliadau. I gefnogi myfyrwyr fel fi, byddai’n fuddiol caniatáu i ni ddathlu ein hiaith a’n cartref. Hefyd, rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio eu sgiliau iaith unigryw neu rannu agweddau sylweddol o’u hanes neu ddiwylliant. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy’n hynod falch fod rhai datblygiadau cyffrous wedi digwydd yn y maes hwn. Mae’r cynnydd mewn cymdeithasau Cymraeg ar draws prifysgolion Lloegr wedi cynnig lle i israddedigion o Gymru siarad, rhannu syniadau a thrafod gwaith yn eu hiaith eu hunain. Enghraifft wych yw Cymdeithas Gymraeg UCL, sy’n trefnu gwersi Cymraeg, sesiynau sgwrsio a sgyrsiau hanes.
Serch hynny, araf fu’r broses hon ac er bod y Gymraeg efallai’n cael rhywfaint o gydnabyddiaeth erbyn hyn, fe fydd dysgwyr dwyieithog eraill sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol yn teimlo’n union fel yr oeddwn i. Fy neges iddynt yw hyn: iaith eich aelwyd yw eich ased gorau. Bydd system addysg ffurfiol hen ffasiwn yn peri i chi gredu y dylem i gyd fod yn uniaith sy’n siarad Saesneg yn unig ond mewn gwirionedd cyfyngu arnoch fydd hyn yn y byd gwirioneddol amlieithog yr ydym yn byw ynddo. Mae fy iaith Gymraeg wedi rhoi cymaint o gyfleoedd cyffrous i mi ac wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl ddiddorol – mewn gwirionedd dyna a ysgogodd sgwrs rhyngof a fy ngoruchwyliwr PhD, Dr Dina Mehmedbegovic-Smith! Cyflwynodd Dina, sy’n gweithio fel ymgynghorydd ar ddwyieithrwydd gydag ysgolion GEMS yn Dubai, sawl sesiwn datblygiad proffesiynol yn fy ysgol lle bu’n hyrwyddo datblygiad hyfedredd academaidd, dwyieithog trwy ei hymagwedd Diet Ieithyddol Iach. Mae sesiynau Dina wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio fy nghefndir a phrofiadau yn fy rôl broffesiynol ac wedi arwain at ddechrau fy noethuriaeth, gyda ffocws ar ddysgwyr dwyieithog a chynnal iaith a diwylliant yr aelwyd.
Ellie and Dina in GEMS Al Barsha School, Dubai
Arweiniodd fy rôl fel athrawes SIY at weithio mewn Ysgol Genedlaethol yn Dubai, yma rwy’n sylwi fod poblogaeth leol yr Emiraethau Arabaidd Unedig mewn sefyllfa debyg i’r Cymry. Gyda globaleiddio cyflym y wlad a goruchafiaeth yr iaith Saesneg, lleisiodd teuluoedd Emirati bryderon ynglŷn â’u plant yn colli eu hiaith a’u diwylliant.
Credaf fod blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn yn hollbwysig er mwyn datblygu sgiliau dwyieithog a meithrin dealltwriaeth o’u diwylliant. Felly, fy niddordebau ymchwil yn benodol yw deall rôl oedolion wrth arwain a chefnogi plant mewn addysg blynyddoedd cynnar i ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, yn yr ysgol ac ar yr aelwyd. Yn debyg iawn i fy addysg fy hun, cynhelir fy ymchwil mewn ysgol ddwyieithog ac mae gennyf ddiddordeb mewn siarad â rhieni ac athrawon i archwilio’r effaith y mae hyn yn ei gael ar fyfyrwyr a’u hyfedredd mewn dwy iaith. Gobeithiaf y gall fy ymchwil godi ymwybyddiaeth o addysg ddwyieithog ac annog rhieni ac athrawon i gofleidio arferion amlieithog yn eu cartrefi a’u hysgolion. Ond yn bwysicaf oll, hoffwn rymuso plant ifanc dwyieithog i gryfhau eu llais a’u hunaniaeth yn eu mamiaith, wrth ddysgu iaith ychwanegol.
23.02.24
Gambar di atas: Bersama para wisudawan di Universitas Udayana Translated by: Ince Dian Aprilyani Azir Tanggal More
23.02.24
Gambar ring baduur: Sareng lulusan Universitas Udayana Translated by: Ni Putu Sri Suci Artini Asih and More
21.02.24
Image above: With the graduates at University of Udayana On February 21st we mark the UN More
18.12.23
Image above left: Thomas giving a keynote at the first International Conference on Language Development and Assessment More